Rhyfeddodau Cymru

Bwriad y teithiau yma yw rhoi'r cyfle i bob unigolyn edmygu harddwch yr amgylchedd yn ogystal a blasu hud ein Chwedlau.

Cliciwch am fwy o fanylion

Bedd y lleidr

Bedd y lleidr

Dewch i fedd y lleidr yn Nhrefaldwyn, lle cafodd John Newton ei gyhuddo ar gam o ddwyn ac o ganlyniad cafodd ei ddienyddio. Am un genhedlaeth ni dyfodd dim ar ei fedd.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
0
Castell Dunraven

Castell Dunraven

Dewch i wybod storiau Castell Dunraven ger Southerndown ac yna cyfle i ymweld â'r traeth.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
1
Castell Ogwr

Castell Ogwr

Beth am ymweld â chastell Ogwr ac efallai synhwyro presenoldeb y Ladi Wen, ysbryd lleol a oedd unwaith yn gwarchod trysorau'r castell! Cyfle hefyd i ymchwilio'r 'New Inn'- hafan hoffus gan smyglwyr a dihirod y ddeunawfed ganrif.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
2
Cenfig

Cenfig

Dewch i ymchwilio dirgelwch Cenfig - tiroedd coll ac ysbrydion di-ri mewn hen dafarn lleol!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
3
Guto Nyth Bran

Guto Nyth Bran

Dewch i gael blas o chwedl Guto Nyth Brân, rhedwr cyflym iawn o'r Rhondda. Rhedwr penigamp o'r ddeunawfed ganrif a bu farw ar ddiwedd ras fythgofiadwy.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
4
Iolo Morganwg

Iolo Morganwg

Roedd Edward Williams, sy'n fwy adnabyddus dan ei enw barddol Iolo Morganwg, yn fardd a hynafiaethydd a aned ym mhentref bychan Pennon, plwyf Llancarfan, ym Morgannwg, de Cymru. Fe sefydlodd 'Gorsedd y Beirdd'. Beth am droedio ei lwybr o gwmpas y Fro ac yna ymweld â dref Bontfaen ei hun?

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
5
Llyn y Fan

Llyn y Fan

Dewch i ymchwilio chwedl Llyn y Fan Fach ger Llanddeusant.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
6
Y Ferch o Gefn Ydfa

Y Ferch o Gefn Ydfa

Dewch i ymweld ag ardal Llangynwyd a phrofi tristwch y Ferch o Gefn Ydfa, Ann Thomas a gorfodwyd i briodi yn groes i'w hewyllys ac a bu farw o dor calon yn ôl y chwedl.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
7

Hafan Hanes

Fel y mae'r enw yn awgrymu, cyfle sydd yma i deithio i leoliadau hanesyddol amrywiol ar draws Cymru er mwyn profi hanes rhyfeddol ddoe a heddiw.

Cliciwch am fwy o fanylion

Abergawun

Abergawun

Ymchwiliwch i hanes Abergwaun, safle ymosodiad olaf Prydain ar 22ain-24ain o Chwefror 1797. Dewch i weld lle glaniodd y Ffrancwyr, ac yn ddiweddarach, wedi eu trechu, lle gwnaethpwyd cytundeb mewn tafarn lleol.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
8
Big Pit

Big Pit

Beth am ymweld ag Amgueddfa Mwyngloddio Cenedlaethol Big Pit i archwilio a dysgu am ein treftadaeth glofaol gyfoethog?

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
9
Cerrig Celtiadd

Cerrig Celtiadd

Ymwelwch a dysgwch am y cerrig Celtaidd sydd yn Eglwys Sant Illtud yn Llanilltud Fawr - gwelwch dros eich hun yr adnewyddiadau a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Credir mai'r eglwys ei hun yw canolfan ddysgu cynharaf Prydain.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
10
Cestyll Normanaidd

Cestyll Normanaidd

Ymwelwch â chestyll Normanaidd a adeiladwyd i wrthsefyll y Normaniaid, un yn llwyddo hyd yn oed i wrthsefyll Glyndwr ei hun!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
11
Frongoch

Frongoch

Dewch gyda mi i Frongoch ble gafodd Michael Collins a dros 1,800 o Wyddelod eu carcharu wedi digwyddiadau Pasg 1916.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
12
Llong Ganoloesol

Llong Ganoloesol

Dewch i weld llong ganoloesol a ddarganfyddir yn lleol sy'n dyddio'n ôl i'r 15fed ganrif. Gwelir yr hyn a wnaed i'r llong ers ei darganfod yn 2002.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
13
Pileth

Pileth

Ewch i safle Bryn Glas a elwir hefyd yn frwydr Pilleth ychydig y tu allan i Tref y Clawdd. Ar y 22ain o Fehefin 1402, arweiniodd Owain Glyndwr ei fyddin i fuddugoliaeth sylweddol yn erbyn y Saeson. Ewch i safle'r frwydr a'r eglwys hynafol gerllaw a ffynnon sanctaidd Santes Fair - lleoliad heddychlon a dawel y dyddiau hyn!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
14
Royal Charter

Royal Charter

Yn ystod storm dreisgar ar y 26ain o Hydref 1859 boddwyd dros 300 o bobl o'r llong Royal Charter ym Mae Dulas, Môn. Claddwyd llawer ym mynwentydd yr ardal. Un newyddiadurwr ifanc ar y pryd oedd Charles Dickens

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
15
Sain Ffagan

Sain Ffagan

Dysgwch fwy am ddiwylliant a thraddodiad Cymreig yn Sain Ffagan: Amgueddfa Werin Cymru.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
16
Siambrau Claddu

Siambrau Claddu

Ewch i'r Siambrau Claddu Neolithig yn Tinkinswood a St Lythans - a adeiladwyd bron i 6,000 o flynyddoedd yn ôl.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
17
Tiger Bay

Tiger Bay

Mwyngloddio glo a wnaeth y 3ydd Ardalydd y dyn cyfoethocaf yn y byd! Dewch i weld Tiger Bay lle cynhyrchwyd gymaint o lo. Dysgwch sut y cafodd yr ardal ei ailddatblygu gan Gorfforaeth Datblygu Bae Caerdydd.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
18
William Crawshay

William Crawshay

Roedd poblogaeth dosbarth gweithiol Merthyr Tudful ym Mai 1831 yn gwrthwynebu amodau gwaith William Crawshay. Dysgwch pam cafodd dyn di euog ei grogi yn ddiweddarach yng Nghaerdydd.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
19

Hwyl a Ffeithiau

Teithiau sy'n addysgiadol ond ar yr un pryd yn cynig cyfleoedd i ymlacio a chael hwyl. Bydd y teithiau yma yn cynnwys ymweliad i safle o ddiddordeb hanesyddol ac yna'n dilyn gyda chyfle i fwynhau bach o bampro, prynhawn yn y rasys, gem bêl droed neu hyd yn oed siopa! I'r teulu buaswn yn awgrymu lleoliad hanesyddol i ddechrau, yna mynd am dro i lan y môr neu ymweliad â pharc chwarae er mwyn cael y cyfle i ddefnyddio egni! Bydd y teithiau yma'n diweddu mewn un o fy hoff dafarnau er mwyn cael pryd o fwyd a diod bach haeddiannol!

Cliciwch am fwy o fanylion

Bro Morgannwg

Bro Morgannwg

Ar ôl taith gerdded arfordirol hyfryd beth am ymlacio mewn tafarn hanesyddol neu gaffi yn un o phentrefi / trefi niferus yr ardal.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
20
Crochendy Ewenni

Crochendy Ewenni

Ewch i Grochendy Ewenni sydd wedi bod yn yr un teulu am genedlaethau ac yn dyddio'n ôl i 1610 o leiaf. Awgrymaf bwyta yn y caffi gerllaw sy'n arbenigo mewn bwyd lleol.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
21
Dylan Thomas

Dylan Thomas

Ewch i Lacharn ac ymchwiliwch i etifeddiaeth un o feirdd mwyaf Cymru. Mae ei fywyd yn sicr yn fyw yn atgofion y dref tawel hon lle bu'r dyn enwog yn byw o 1949 hyd ei farwolaeth gynnar yn 1953.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
22
Iolo Morganwg

Iolo Morganwg

Dysgwch fwy am un o gyn feibion y Fro, Iolo Morganwg. Ymwelwch a'i drigfanau gan ddiweddu mewn un o'i hoff dafarnau.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
23
Jim Driscoll

Jim Driscoll

Mae Cymru wedi cynhyrchu bocswyr gwych ac ymhlith y gorau roedd Jim Driscoll. Dewch i ddarganfod ardal ei enedigaeth yng Nghaerdydd ac ewch i dafarn y Royal Oak lle hyfforddodd. Denodd ei gladdedigaeth ym Mynwent Cathays yn 1925 dros 100,000 o bobl.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
24
Parc Cwm Dar

Parc Cwm Dar

Ewch i Barc Cwm Darran i edmygu ddyffryn hardd Darran - cerddwch ar hyd llwybrau'r llyn a oedd unwaith yn drwm yn y diwydiant glo!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
25
Penarth

Penarth

Os ydych yn ymddiddori mewn Celf, rydw i'n argymell Oriel Washington ym Mhenarth i weld celf gyfoes. Yn ddiweddarach gall y plant edrych ymlaen at flasu rhai o siopau melysion y dref!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
26
Porthcawl

Porthcawl

Beth am ymweld â Phorthcawl - yn gyntaf at ddibenion addysgol ac yn ddiweddarach cyfle i fynd lawr i fwynhau'r traeth! Ewch i'r amgueddfa leol i weld eu harddangosfeydd Morwrol / Rhyfel yn yr Awyr.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
27
Trychineb y Mwmbwls

Trychineb y Mwmbwls

Mae eleni yn coffau 70 mlynedd ers Bad Achub y Mwmbwls - dewch i weld yr Arddangosfa yn Llyfrgell Ystumllwynarth. Darganfyddwch ar hyd y ffordd hanesion o longddrylliadau a llithrith ar hyd ein harfordir deheuol.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
28
Y Barri

Y Barri

Ewch i Amgueddfa Rhyfel y Barri a phrofwch i chi eich hun sut roedd bywyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd yn y dref a'r ardal gyfagos.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
29

Siarad Slic

Pa ffordd gwell o ddysgu iaith na thrwy gyfrwng profiad bywyd go iawn? Dydw i ddim yn athro ond mae gen i lefel 'o' yn y Gymraeg, ac yn teimlo'r un angerdd am yr iaith â'r gwlad ei hun! Mae 'Siarad Slic' yn rhoi'r cyfle i bob unigolyn ddysgu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a hwylus. Bydd y pwyslais ar ddysgu'r iaith lafar, fel cyfrwng i ddeall a chyfathrebu. Cyfle sydd yma i ddysgu iaith ar daith! Bydd pob taith yn ymweld a lleoliadau megis y fferm, yr archfarchnad, y parc a nifer o leoliadau eraill, gan ffocysu ar ddysgu'r iaith sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad dan sylw. Mae'n daith sydd mewn ffordd yn mynd a'r dosbarth tu allan, yn gyfle nid yn unig i ddysgu iaith ond hefyd i werthfawrogi ein diwylliant. Mae'r teithiau yma ar gael i oedolion, teuluoedd ac ysgolion. Byddai pob taith iaith oedolion yn gorffen gydag ymweliad i dafarn, cyfle i flasu cwrw lleol a fydd efallai'n helpu llif yr iaith!

Cliciwch am fwy o fanylion

Sairad Slic

Sairad Slic

Pa ffordd gwell o ddysgu iaith na thrwy gyfrwng profiad bywyd go iawn? Dydw i ddim yn athro ond mae gen i lefel 'o' yn y Gymraeg, ac yn teimlo'r un angerdd am yr iaith â'r gwlad ei hun! Mae 'Siarad Slic' yn rhoi'r cyfle i bob unigolyn ddysgu Cymraeg mewn awyrgylch hamddenol a hwylus. Bydd y pwyslais ar ddysgu'r iaith lafar, fel cyfrwng i ddeall a chyfathrebu. Cyfle sydd yma i ddysgu iaith ar daith! Bydd pob taith yn ymweld a lleoliadau megis y fferm, yr archfarchnad, y parc a nifer o leoliadau eraill, gan ffocysu ar ddysgu'r iaith sy'n angenrheidiol ar gyfer y lleoliad dan sylw. Mae'n daith sydd mewn ffordd yn mynd a'r dosbarth tu allan, yn gyfle nid yn unig i ddysgu iaith ond hefyd i werthfawrogi ein diwylliant. Mae'r teithiau yma ar gael i oedolion, teuluoedd ac ysgolion. Byddai pob taith iaith oedolion yn gorffen gydag ymweliad i dafarn, cyfle i flasu cwrw lleol a fydd efallai'n helpu llif yr iaith!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
30

Teithiau Tafarn

I'r sawl sy'n dewis y daith yma, dewis da yn wir! Yr wyf wedi ymddiddori mewn hanes tafarnau ers nifer o flynyddoedd! Mae cyfle yma i ddysgu hanes yr adeilad tra'n mwynhau blasu cwrw a gwinoedd di-ri! Camwch o'r byd llawn stres ac ymunwch â fi ar daith i ddarganfod hafanau cudd, hen dafarnau sy'n gorlifo â chymeriad a hanes ond eto'n agored i weini'r teithiwr brwd.

Cliciwch am fwy o fanylion

Arfordir

Arfordir

Beth am grwydr cwrw arfordirol gyda golygfeydd godidog ar hyd y ffordd? Unwaith eto does dim angen poeni am yrru!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC31
Bragdai

Bragdai

Dewch ar daith dywys o un neu ddau o'r Bragdai Cymreig sydd gennym yng Nghymru heddiw. Yfwch a dysgwch!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC32
Cefn Gwald

Cefn Gwald

Dewch i dafarndai hanesyddol yng nghefn gwlad hardd Cymru. Profwch lleoliadau yfed y cyfoethog a'r enwog. Nid oes angen i chi boeni am yrru!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC33
Dylan Thomas

Dylan Thomas

Beth am daith Dylan Thomas (trefol neu gwledig) Gweler lle'r oedd y dyn enwog yn yfed gyda llawer o'i dyllau dyfrio yn dal i fod ar agor!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC34
Ffrindiau a theulu

Ffrindiau a theulu

Ar gyfer ffrindiau a theuluoedd, beth am ddewis sefydliad cwrw go iawn gydag enw da am fwyd da.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC35
Tref/Dinas

Tref/Dinas

Dewch ar daith gerdded o gwmpas un o ddinasoedd / trefi Cymru. Efallai cewch gyfle i weld ambell ysbryd ar hyd y ffordd!

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
mapContainerPC36

Pic a Mics

Fel y mae'r enw yn awgrymu, cyfle sydd yma i ddethol ac uno unrhyw daith o'r holl ddewisiadau. Rwyf yn fwy na pharod i ystyried unrhyw daith, o fewn reswm wrth gwrs! Awgrymwch daith a gwnaf fy ngorau i ateb eich gofynion neu awgrymu dewis tebyg! Mae cyfle yma felly i chi ddewis o blith awgrymiadau 'Teithiau Dylan', neu os ydych yn dymuno creu eich diwrnod eich hun, buaswn ar gael i'ch casglu a'ch cludo i leoliadau o'ch dewis ar hyd y dydd. Cysylltwch â fi i gynllunio.

Cliciwch am fwy o fanylion

Pic a Mics

Pic a Mics

Dewiswch o blith awgrymiadau 'Teithiau Dylan', neu os ydych yn dymuno creu eich diwrnod eich hun, buaswn ar gael i'ch casglu a'ch cludo i leoliadau o'ch dewis ar hyd y dydd. Cysylltwch â fi i gynllunio.

Cysylltwch â ni i archebu'r daith hon
37
X

Terms & Conditions, and Privacy